Mae gan ein gwasanaeth rhybuddion diweddaraf ni dri math o rybudd a fydd o gymorth i chi ymbaratoi ar lifogydd, a gweithredu.
Sef:
- Llifogydd: Byddwch Yn Barod
- Rhybudd Llifogydd
- Rhybudd Llifogydd Difrifol
Llifogydd: Byddwch Yn Barod

Beth y mae'n ei olygu
Mae llifogydd yn bosibl. Byddwch barod.
Pryd y defnyddir ef
Rhwng dwy awr a dau ddiwrnod cyn llifogydd.
Beth ddylid ei wneud
- Paratowch i weithredu’ch cynllun llifogydd chi.
- Paratowch eich pecyn llifogydd o bethau hanfodol.
- Cadwch olwg ar lefelau dŵr lleol a’r rhagolwg llifogydd ar ein gwefan ni.
Rhybudd Llifogydd

Beth y mae'n ei olygu
Disgwylir llifogydd. Mae angen gweithredu ar unwaith.
Pryd y defnyddir ef
Rhwng hanner awr a diwrnod o flaen llifogydd.
Beth ddylid ei wneud
- Symudwch y teulu, yr anifeiliaid anwes a’ch trysorau i le diogel.
- Caewch y cyflenwadau nwy, trydan a dŵr os yw’n ddiogel gwneud hynny.
- Gosodwch offer amddiffyn rhag llifogydd.
Rhybudd Llifogydd Difrifol

Beth y mae'n ei olygu
Llifogydd difrifol. Perygl i fywyd.
Pryd y defnyddir ef
Pan fo llifogydd yn fygythiad sylweddol i fywyd.
Beth ddylid ei wneud
- Arhoswch mewn lle diogel gyda modd dianc.
- Byddwch barod rhag y bydd angen i chi adael eich cartref.
- Cydweithredwch â'r gwasanaethau argyfwng.
- Galwch 999 os ydych ym mherygl enbyd.
Dim rhybuddion mewn grym
Beth y mae’n ei olygu
Ni ddisgwylir rhagor o lifogydd yn eich bro chi, ar hyn o bryd.
Pryd y defnyddir ef
Pan fo afonydd neu'r môr yn dechrau dychwelyd i'w cyflwr arferol.
Beth ddylid ei wneud
- Byddwch ofalus. Gall dŵr llifogydd sefyllian am sawl diwrnod.
- Os gorlifwyd chi, galwch eich cwmni yswiriant cyn gynted ag y medrwch chi.