Beth i'w wneud mewn argyfwng

Camau syml ar gyfer cadw'n ddiogel yn ystod llifogydd.

Gwrandwch a gweithredwch ar gyngor y gwasanaethau brys a dilynwch y camau syml hyn:

1. Mae pobl yn bwysicach nag eiddo.  Ewch â'ch teulu a'ch anifeiliaid anwes i fyny'r grisiau, gyda ffordd o ddianc.

2. Casglwch eitemau hanfodol (fel dŵr, blancedi, tortsh, pecyn cymorth cyntaf, meddyginiaethau hanfodol a bwyd) a'u rhoi y tu hwnt i gyrraedd y llifogydd i'w cadw'n sych.

3. Gwrandewch ar y radio lleol am y wybodaeth ddiweddaraf neu ffoniwch y Llinell Llifogydd ar 0845 988 1188.

4. Rhowch blygiau mewn sinciau a baddonau.  Defnyddiwch fag tywod, cas gobennydd neu fag plastig wedi'i lenwi â phridd, neu wrthrych trwm i roi pwysau arnynt, er mwyn atal y dŵr rhag llifo yn ôl i fyny drwy'r draeniau i'r sinciau a'r toiledau.

5. Diffoddwch y cyflenwadau nwy, trydan a dŵr ychydig cyn i'r dŵr ddod i mewn i'ch cartref, os yw'n ddiogel gwneud hynny. PEIDIWCH â chyffwrdd ffynonellau trydanol wrth sefyll mewn dŵr.

Gall dŵr llifogydd godi'n sydyn, peidiwch â chynhyrfu a chysurwch y rhai o'ch cwmpas. Ffoniwch 999 os ydych mewn perygl.

Oes angen help neu gymorth arnoch i gyflawni’r gweithrediadau llifogydd hyn?

Efallai bod angen help neu gymorth ar rai pobl i baratoi ar gyfer llifogydd. Fel rhan o'ch cynllunio llifogydd, rydym yn argymell eich bod chi'n meddwl am bwy y gallwch ofyn iddyn nhw am gymorth cyn, yn ystod, ac ar ôl llifogydd.  

Gallech hefyd ystyried cysylltu â’ch awdurdod lleol, gan fod nifer ohonynt yn cadw rhestr o bobl sy’n agored i niwed a allai fod angen cymorth adeg llifogydd neu mewn sefyllfa frys.  

Os yw'r Gwasanaeth Uniongyrchol Llinell Rybuddion Llifogydd ar gael yn eich ardal, gallwn drefnu i unrhyw rybuddion llifogydd ar gyfer eich eiddo gael eu cyflwyno i berthynas neu ffrind, fel eu bod nhw'n ymwybodol y gall fod angen cymorth arnoch. Gallwch sefydlu hyn trwy ffonio'r Llinell Llifogydd ar 0845 988 1188. 

Mae’r daflen hon ar gael hefyd mewn tri chanllaw sain:

Noder bod y ffeiliau hyn yn fawr iawn a byddant yn cymryd tipyn o amser i’w lawrlwytho.