Mae yna nifer o bethau y gallwch eu gwneud i baratoi eich cartref neu eiddo busnes er mwyn lleihau’r difrod mae llifogydd yn debygol o achosi.
Pa opsiynau sy’n addas ar gyfer eich eiddo chi?
Bydd y ffordd y mae pobl yn paratoi ar gyfer llifogydd yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys:
- os yw eich adeilad yn cael ei ddiogelu gan amddiffynfa llifogydd cymunedol
- o ble mae’r llifddwr yn dod (er enghraifft afon, ffos, y môr, dŵr daear, glaw), dyfnder tebygol y dŵr a faint o rybudd byddwch yn ei gael
- strwythur a lleoliad yr adeilad a’r math o dir mae’n sefyll arno.
It is important to seek independent professional advice, for example from a surveyor or architect, to help you decide on the best options available for your property.