Cynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylchoedd

Mae Cynlluniau Dalgylch ar gyfer Rheoli Llifogydd (CFMPau) yn rhoi trosolwg o’r risg o lifogydd ar draws pob dalgylch afonydd. Maent yn argymell dulliau o reoli’r risgiau hyn nawr ac yn ystod y 50-100 mlynedd nesaf.

Beth yw Cynlluniau Dalgylch ar gyfer Rheoli Llifogydd?

Mae CFMPau yn ystyried pob math o lifogydd mewndirol, o afonydd, dŵr daear, dŵr wyneb a llifogydd llanw, ond nid llifogydd uniongyrchol o’r môr, (llifogydd arfordirol), sydd wedi eu cynnwys dan y Cynlluniau Rheoli Traethlin. Maent hefyd yn ystyried effeithiau tebygol newid hinsawdd, effeithiau sut ydym yn defnyddio a rheoli’r tir, a sut y gellid datblygu ardaloedd i fodloni ein hanghenion presennol heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau i ddod i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Bydd CFMPau yn cael eu defnyddio i’n helpu ni a’n partneriaid i gynllunio a chytuno ar y dull mwyaf effeithiol o reoli risg o lifogydd yn y dyfodol. Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar sut y gallwn adeiladu ar CFMPau i gyflawni Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd sy’n ofynnol gan y Gyfarwyddeb Llifogydd.

Cynllun Dalgylch ar gyfer Rheoli Llifogydd - Adroddiad Blynyddol 2012

Rydym yn monitro statws oddeutu 5,700 o weithredoedd yn ein CFMPau. Nodir y cynnydd ar weithredu’r rhain yng Nghymru a Lloegr yn ein hail adroddiad blynyddol. Mae’r adroddiad yn amlygu’r gwaith yr ydym ni a’n partneriaid wedi ei gyflawni rhwng Ebrill 2011 a Mawrth 2012.

Cwblhawyd dros 500 o weithredoedd ers adroddiad y llynedd. Mae oddeutu 16 y cant o weithredoedd yn Lloegr a 27 y cant yng Nghymru nawr wedi eu cwblhau. Ac mae 50 y cant o weithredoedd CFMP ar waith.

Datganiadau Ôl-fabwysiadu

Mae’r Datganiad Ôl-fabwysiadu yn amlinellu sut yr ystyriwyd yr amgylchedd yn ystod datblygiad y cynllun a sut mae ymgynghoriadau wedi dylanwadu ar y cynllun terfynol.

Chwiliwch am y CFMP yn eich ardal chi

CFMP regional map