Esbonio sychder

Canfyddwch pam fod sychder yn digwydd a sut allwch chi helpu trwy ddefnyddio dŵr yn ddoeth.

Beth yw sychder?

Nid oes unrhyw ddiffiniad sengl o sychder. Tra caiff sychder ei achosi gan brinder glawiad, bydd ei natur, ei amseriad a’i effeithiau’n amrywio yn ôl y lleoliad a’r sectorau gwahanol yr effeithir arnynt fel y cyflenwad dŵr cyhoeddus, amaethyddiaeth a diwydiant.

Hwyrach nad yw sychder hir yn y gaeaf yn amlwg oherwydd bod y tywydd yn oer, ond gall achosi problemau ar gyfer y cyflenwad cyhoeddus os nad yw dŵr daear a chronfeydd yn ail-lenwi. Gall sychder byr yn yr haf fod yn amlwg dros ben gan fod pridd a nentydd bach yn sychu, gan effeithio ar ffermwyr a’r amgylchedd yn gyntaf.

Pam ydym ni’n dal i gael llifogydd yn ystod sychder?

Mae dŵr glaw yn llifo ar draws wyneb y pridd sych

Gall glaw trwm achosi llifogydd ar unrhyw adeg gan gynnwys yn ystod sychder.

Mewn sychder mae pridd yn sychu a gall galedu, felly mae glaw trwm yn rhedeg yn gyflym oddi ar yr wyneb i mewn i afonydd a nentydd gan achosi llifogydd i lawr yr afon.
 
Yn ystod sychder mae glaw yn fuddiol i’r amgylchedd yn y tymor byr, ond yn yr haf sugnir llawer o’r glaw i fyny gan blanhigion neu mae’n anweddu. Mae hyn yn golygu y gall y dŵr beidio â thryddiferu drwy’r pridd i mewn i’r dyfrhaenau tanddaearol.

Felly, pan fod y tywydd sych yn dod yn ôl, nid oes digon o ddŵr wedi’i storio ac mae cyflyrau sychder yn parhau.

Diffiniadau

Ar draws Cymru a Lloegr rydym yn cymhwyso’r tri chategori hwn yng nghyswllt sychder:

Cyfyngiadau dros dro ar ddefnyddio

Mae cynlluniau sychder cwmnïau dŵr wedi mynnu eu bod yn rhoi cyfyngiadau ar waith fel gwaharddiadau ar bibellau dŵr er mwyn helpu i gynilo cyflenwadau. Mae ffermwyr, echdynwyr eraill a’r amgylchedd hefyd yn debygol o gael eu heffeithio’n andwyol. Ni chaiff storfeydd dŵr daear eu hail-lenwi gan gyfnodau byr o law.

Straen ar yr amgylchedd o ganlyniad i ddiffyg glawiad

Mae ffermwyr, echdynwyr eraill a’r amgylchedd  mewn perygl o effeithiau andwyol o lawiad cryn dipyn yn is na’r cyfartaledd dros gyfnod hir. Gall afonydd a llynnoedd ddangos ymatebion tymor byr o ganlyniad i lawiad ond mae storfeydd dŵr daear yn parhau i fod yn ddiffygiol.

Dŵr daear isel

Rydym yn dosbarthu dŵr daear isel fel safleoedd sy’n nodedig neu’n eithriadol o isel ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn. Mae dŵr daear yn cymryd mwy o amser o ymateb i lawiad nag afonydd a chronfeydd, ac weithiau nid yw’n ymateb o gwbl oherwydd amsugnir gwlybaniaeth gan blanhigion neu mae’n anweddu  fel bod tymereddau’n codi.

Sut mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn pennu categorïau sychder?

  1. Rydym yn ystyried ystod o sbardunau hydrolegol ac amgylcheddol ar draws y sectorau gwahanol a’r ardal ddaearyddol yr effeithir arni
  2. Rydym yn edrych ar y rhagolygon am adnodd dŵr a pha mor debygol y mae y bydd y sefyllfa’n gwaethygu. Bydd hyn yn cynnwys yr amseriad a’r tymor
  3. Rydym yn asesu’r lefel o weithredoedd rydym ni a chwmnïau dŵr yn eu rhoi ar waith neu yr ydym ar fin eu rhoi ar waith yn unol â’n cynlluniau sychder
  4. Rydym yn ystyried maint diddordeb y cyhoedd a’r cyfryngau er mwyn i bobl fod yn wybodus a gallu helpu – er enghraifft trwy arbed dŵr

Mae’r penderfyniad i symud i statws sychder neu statws arall yn ddyfarniad arbenigol wedi’i seilio ar yr holl ffactorau hyn.

Caiff prif agweddau sychder a’r effeithiau, risgiau a sbardunau rydym yn eu monitro eu gosod allan yn ein cynlluniau sychder. Maent yn cynnwys yr agweddau canlynol a byddant yn dueddol o ddigwydd yn y drefn a welir isod:

  1. Meteorolegol – prinder glawiad ac anweddu gwirioneddol
  2. Hydrolegol – gostyngiad mewn llifoedd afon a lefelau dŵr daear
  3. Amgylcheddol – priddoedd sych, straen ar gynefinoedd a bywyd gwyllt
  4. Amaethyddol – priddoedd sych, angen i ddyfrhau a straen ar blanhigion
  5. Cyflenwad cyhoeddus – storfeydd isel mewn cronfeydd, galwadau uchel, apeliadau i, a chyfyngiadau ar gwsmeriaid , a chaniatadau a gorchmynion sychder

Mwy o wybodaeth

Canfyddwch fwy ynghylch y mathau gwahanol o sychder a’u heffeithiau: