Trwyddedau pysgota â gwialen

Dewch o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch trwyddedau pysgota â gwialen, yn ogystal â’r gwahanol fathau o drwyddedau sydd ar gael ac ymhle i’w prynu.

Trwydded Pysgota â Gwialen - Cwestiynau Cyffredin


Dewch o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am drwyddedau pysgota â gwialen.

A oes angen trwydded pysgota â gwialen arnaf?


Bydd angen trwydded pysgota â gwialen ar unrhyw un sy'n 12 oed neu drosodd sydd am bysgota â gwialen a lein am eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid a llyswennod yng Nghymru, Lloegr neu yn rhanbarth Border Esk yn yr Alban. Os ydych yn pysgota am bysgod bras â thair neu bedair gwialen (pedair yw'r uchafswm a ganiateir) mae angen dwy drwydded arnoch.

Tollau ac amodau trwydded

Mae tollau ac amodau trwydded wedi'u pennu ar gyfer 2012 a 2013, ond rydym wrthi'n ystyried ein cynigion tollau trwydded ar gyfer 2014 a thu hwnt. Byddwn yn adolygu agweddau penodol ar y system drwyddedu er mwyn rhoi gwasanaeth gwell i dalwyr trwydded pysgota â gwialen.
Byddwn yn ystyried sawl gwialen a ganiateir fesul trwydded fel rhan o'r adolygiad hwn. Mae opsiynau o ran newid wrthi'n cael eu hystyried, ond mae cefnogaeth frwd dros ganiatáu tair gwialen fesul trwydded ar gyfer pysgotwyr dŵr llonydd. Byddwn yn cynnal ymgynghoriad ar gynigion cadarn ddechrau'r flwyddyn nesaf. Byddai cost y drwydded ychwanegol yn dibynnu ar nifer y pysgotwyr, ond ni fyddai dros £10 fwy na thebyg.

Ble y gallaf brynu fy nhrwydded pysgota â gwialen?


Gallwch brynu eich trwydded pysgota â gwialen o Swyddfeydd Post ledled Cymru a Lloegr, ar-lein, drwy ddebyd uniongyrchol a thros y ffôn ar 0844 800 5386. Mae'r llinell ffôn ar agor rhwng 8.30am ac 8pm bob dydd rhwng mis Mawrth a mis Medi a rhwng 8.30am a 6.00pm o fis Hydref i fis Chwefror, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Clywais fod modd gwneud cais am drwydded drwy wefannau eraill. A yw hyn yn wir?


Dim ond Swyddfa'r Post a nifer o bysgodfeydd penodol sy'n cael gwerthu trwyddedau pysgota â gwialen. Rydym yn ymwybodol bod gwefannau eraill yn cynnig "prosesu" eich cais am drwydded pysgota â gwialen a gallant godi ffi arnoch am y gwasanaeth hwn. Nid oes gennym unrhyw gyswllt â gwefannau o'r fath ac nid ydym yn cymeradwyo’r gwasanaeth a ddarperir ganddynt.

Sut mae gwneud cais am drwydded pysgota â gwialen os wyf yn byw dramor?


Dylai cwsmeriaid tramor sydd am brynu trwydded lawn, trwydded gonsesiynol i bobl hŷn neu drwydded fyrdymor eu prynu ar y we. Mae'n annhebygol y cewch chi'r drwydded lawn yn y post, ac ni chaiff trwyddedau byrdymor eu hanfon at gwsmeriaid tramor, felly mae'n hanfodol eich bod yn cadw eich e-bost cadarnhau fel prawf pwrcasu ac yn ei ddefnyddio pan fyddwch yn mynd i bysgota. Os ydych yn gwneud cais am drwydded gonsesiynol i bobl anabl, cysylltwch â ni yn uniongyrchol, naill ai drwy ein gwefan neu drwy ffonio ein rhif ymholiadau cyffredinol. Ceir manylion ar frig y dudalen hon drwy glicio ar y ddolen ‘cysylltu â ni.’


Bydd angen i unrhyw gwsmeriaid tramor eraill sydd am ddefnyddio gwialen a lein i bysgota brynu trwydded pan gyrhaeddant Gymru neu Loegr gan ddefnyddio'r cyfeiriad lle maent yn aros yn ystod eu hymweliad

Mae fy enw a'm cyfeiriad wedi newid. Beth y dylwn ei wneud?

Os yw eich enw a/neu gyfeiriad wedi newid, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost atom i enquiries@environment-agency.gov.uk neu ein ffonio ar 03708 506 506 fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion

Pryd y daw fy nhrwydded i ben?


Os byddwch yn prynu trwydded lawn bydd yn dod i ben ar 31 Mawrth bob blwyddyn oni bai eich bod wedi prynu trwydded newydd ar gyfer y tymor ymlaen llaw. Mae trwyddedau diwrnod yn ddilys am 24 awr o'r amser dechrau ac mae trwyddedau wyth diwrnod yn ddilys am 192 o oriau yn olynol o'r amser dechrau.

Pa mor fuan ar ôl prynu fy nhrwydded bysgota y caf bysgota?

Os ydych wedi prynu trwydded lawn ar gyfer y tymor hwn o Swyddfa'r Post dros y ffôn neu ar-lein ar wefan Swyddfa'r Post, cewch ddechrau pysgota ar unwaith. Byddwch yn cael derbynneb til (mewn canghennau o Swyddfa'r Post) neu neges e-bost gan Swyddfa'r Post (ar-lein neu dros y ffôn) i gadarnhau bod eich archeb wedi cael ei phrosesu'n llwyddiannus.

Os ydych wedi prynu trwydded diwrnod neu drwydded wyth diwrnod cewch bysgota o'r dyddiad dechrau a'r amser dechrau a nodir ar y cais am drwydded. Unwaith eto, byddwch yn cael derbynneb til neu neges e-bost o Swyddfa'r Post i gadarnhau bod eich archeb wedi cael ei phrosesu'n llwyddiannus.

Noder bod rhai gwefannau yn cynnig prosesu eich cais am drwydded pysgota â gwialen ar eich rhan. Mae'n bosibl y bydd oedi rhwng pryd y byddwch yn gwneud cais ar y gwefannau hyn a phryd y byddwn yn derbyn ac yn cwblhau eich trafodiad. Rhaid i chi aros hyd nes y byddwch wedi cael e-bost gan Swyddfa'r Post yn cadarnhau bod y trafodiad wedi'i gwblhau neu hyd nes y byddwch wedi derbyn eich trwydded cyn y cewch bysgota.

Pryd y byddaf yn cael fy nhrwydded?


Ni chaiff trwyddedau diwrnod a thrwyddedau wyth diwrnod eu postio. Caiff trwyddedau llawn eu hanfon o fewn ychydig ddiwrnod i chi brynu'r drwydded. Os na fyddwch wedi derbyn eich trwydded saith diwrnod ar ôl ei phrynu, ffoniwch ni ar 03708 506 506 a gallwn ymchwilio i hyn.
Rwyf wedi prynu trwydded pysgota brithyllod a physgod bras â gwialen ac am bysgota am eogiaid. A oes angen i mi brynu trwydded newydd?
Gallwch uwchraddio eich trwydded brithyllod a physgod bras i drwydded eogiaid a sewin unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Er mwyn uwchraddio eich trwydded, ewch â hi i un o ganghennau Swyddfa'r Post. Bydd angen i chi dalu'r gwahaniaeth mewn pris rhwng y trwyddedau (waeth pryd y byddwch yn uwchraddio). Bydd Swyddfa'r Post yn cadw eich trwydded brithyllod a physgod bras a chaiff trwydded eogiaid a sewin ei phostio atoch. Gallwch barhau i bysgota am frithyllod nad ydynt yn fudol a physgod bras gyda'r drwydded eogiaid a brithyllod mudol.

A allaf gael trwydded pysgota â gwialen gonsesiynol?


Mae consesiynau ar gael i bobl ifanc rhwng 12 a 16 oed, pobl hŷn 65 oed a throsodd a physgotwyr anabl sydd â Bathodyn Glas neu'n cael Lwfans Byw i'r Anabl. Gall eich cymhwysedd ar gyfer consesiwn gael ei wirio yn erbyn y wybodaeth a roddwch fel rhan o'r broses wneud cais.

A oes angen trwydded arnaf os byddaf yn mynd â'm plentyn bach i bysgota?


Nid oes angen i blant o dan 12 brynu trwydded pysgota â gwialen. Mae angen i blant 12 - 16 oed brynu trwydded pobl ifanc am £5.00. Os ewch â phlentyn i bysgota, argymhellwn y dylech brynu trwydded. Os byddwch yn dal neu'n helpu i ddal y wialen, bydd angen trwydded arnoch.

Cofiwch, mae llawer o glybiau pysgota a physgodfeydd yn cynnal digwyddiadau pysgota cychwynnol i gyflwyno pysgota i blant ac oedolion fel ei gilydd. Bydd gan lawer o'r digwyddiadau hyn drwydded gyffredinol neu drwydded dros dro, sy'n galluogi unrhyw un sy'n mynychu'r digwyddiad i bysgota heb orfod prynu eu trwydded eu hunain.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen digwyddiadau pysgota

Mae llythyr adnewyddu wedi dod drwy'r post. Sut mae adnewyddu fy nhrwydded pysgota â gwialen?


Os ydych wedi cael llythyr adnewyddu yn y post, dylech sicrhau bod y manylion i gyd yn gywir. Os felly, ewch â'ch llythyr gyda chi i Swyddfa'r Post neu dewiswch yr opsiwn adnewyddu eich trwydded ar-lein neu dros y ffôn. Drwy wneud hyn, byddwch yn gallu adnewyddu eich trwydded heb orfod rhoi eich holl fanylion eto. Os yw eich manylion ar y llythyr yn anghywir neu os ydynt wedi newid, bydd angen i chi brynu trwydded drwy roi eich manylion eto. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym eich manylion cywir ar ein cronfa ddata. Nid oes angen i chi gadw eich llythyr adnewyddu ar ôl i chi adnewyddu eich trwydded.

A oes angen llythyr adnewyddu arnaf i brynu trwydded?


Nac oes, dim o gwbl. Os nad ydych wedi cael llythyr adnewyddu neu os nad yw'r llythyr gennych wrth law pan fyddwch yn adnewyddu eich trwydded, gallwch brynu trwydded ar-lein o hyd, yn Swyddfa'r Post neu dros y ffôn. Dim ond eich enw a manylion eich cyfeiriad y bydd angen i chi eu rhoi i ni.

Rwyf wedi colli fy nhrwydded pysgota â gwialen ac mae angen un newydd arnaf, beth y dylwn ei wneud nawr?


Os ydych wedi colli eich trwydded pysgota â gwialen neu os yw wedi'i difrodi, gallwch gael trwydded newydd. I gael un newydd, bydd angen i chi ein ffonio ar 03708 506 506. Codir £5 (£1 i bobl ifanc), am gael trwydded newydd, sy'n daladwy drwy gerdyn debyd/credyd, siec neu archeb post.

Hoffwn gael ad-daliad o gost fy nhrwydded pysgota â gwialen, oes modd gwneud hynny?


Ni ellir ad-dalu cost trwyddedau pysgota â gwialen oni bai eu bod wedi'u prynu mewn camgymeriad ac yn cael eu dychwelyd atom ar unwaith wedi iddynt gael eu prynu. I wneud cais am ad-daliad, anfonwch eich trwydded pysgota â gwialen ynghyd â llythyr eglurhaol yn esbonio pam eich bod am gael ad-daliad i:

Rod Licences
National Customer Contact centre
PO Box 544
Rotherham
S60 1BY

Pam bod trwydded pysgota â gwialen yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth?


Mae'r tymor trwydded pysgota â gwialen yn rhedeg ar gylch blwyddyn o 1 Ebrill i 31 Mawrth ac rydym yn cynnig trwyddedau pysgota â gwialen llawn a chonsesiynol rhwng y dyddiadau hyn. Mae'r system hon yn sicrhau'r costau lleiaf posibl ac yn cadw tollau trwydded mor isel â phosibl. Drwy weithredu fesul blwyddyn ariannol, gallwn atgoffa pob pysgotwr i adnewyddu ei drwydded drwy ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd o fis Mawrth i fis Mehefin. Pe cai pob trwydded ei chyflwyno ar sail treigl, byddai'n rhaid i ni weithredu system atgoffa ar gyfer deiliad pob trwydded unigol a fyddai'n golygu costau ychwanegol a fyddai'n rhaid i ni eu codi ar bysgotwyr.


Rydym yn cynnig trwyddedau diwrnod a thrwyddedau wyth diwrnod ar gyfer pysgotwyr nad ydynt am bysgota'n rheolaidd. Sefydlwyd y system drwyddedu bresennol ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus yn 1994, ac roedd ein Pwyllgorau Cynghori Pysgodfeydd yn rhan o'r gwaith hwn. Fe'i cymeradwywyd gan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd.