Cofrestru tanciau carthion yng Nghymru

Beth i’w wneud os nad yw eich cartref wedi’i gysylltu â charthffos fudr gyhoeddus yng Nghymru.

Important Information

The online registration system for waste exemptions will be unavailable today Wednesday 5th June between 6pm and 8.30pm.

This downtime is for essential maintenance to our systems.

You will not be able to register your waste exemptions online during this time. We recommend that you register your waste exemption before the downtime starts or wait until the system is available again.

We apologise for any inconvenienced caused.  

**********************

Efallai eich bod yn defnyddio tanc carthion neu uned trin carthion gryno i drin carthion eich cartref, oherwydd na ellir ei gysylltu â’r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus.

Os oes gan eich cartref neu eiddo yng Nghymru danc carthion neu uned trin carthion gryno, mae’n rhaid ei gofrestru gyda ni.

I’r mwyafrif o bobl mae hyn yn gofrestriad rhad ac am ddim, unwaith ac am byth, yn amodol ar rai meini  prawf:

  • os yw eich tanc carthion yn gollwng i ffos gerrig yn y ddaear, ac mae cyfanswm bobl sy’n byw yn yr eiddo
    yn llai na 9
  • os yw eich uned trin carthion gryno yn gollwng i gwrs dŵr ac mae cyfanswm bobl sy’n byw yn yr eiddo yn
    llai na 27
  • os nad yw’r system garthion yn agos at ardal warchodedig neu ddynodedig ar gyfer yr amgylchedd neu gyflenwad dŵr daear. Er engrhaift, safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu Parth Diogelu Ffynhonnell ar gyfer dŵr yfed. Byddwn yn gwirio hyn ar eich rhan chi pan dderbyniwn eich cais chi.

Os nad ydych yn cyrraedd y meini prawf uchod, bydd angen i chi wneud cais am Drwydded Amgylcheddol.

Pam ein bod ni angen i chi gofrestru

Nid yw’r rhan fwyaf o danciau carthion neu unedau trin carthion cryno yn achosi problemau os ydyn nhw
wedi’u dylunio a’u gosod yn gywir, ac yn cael eu cynnal yn iawn.

Gallai gollyngiadau o systemau sydd ddim yn cael eu cynnal yn iawn:

  • lygru afonydd, nentydd neu ddŵr tanddaearol
  • heintio dŵr yfed;
  • neu niwedio safleoedd cadwraeth natur.

Mae’n bwysig iawn fod perchnogion yn gofalu fod tanciau carthion neu unedau trin carthion cryno yn
gweithio’n iawn.

Bydd gwybod ymhle mae tanciau carthion o gymorth i’n swyddogion ni gael hyd i unrhyw danciau nad ydynt
wedi’u cynnal a’u cadw’n ddigonol, ac a allent achosi llygredd yn yr ardal, er mwyn i ni geisio datrys y broblem.   

Sut fedraf i gofrestru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynghori bod angen i danciau carthion yng Nghymru gael ei cofrestru gyda ni.

Gallwch chi gofrestru ar ebost neu drwy'r post. 

Er mwyn cofrestru bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • cyfeiriad yr eiddo ble gwneir y gollyngiad, gan gynnwys y cod post a Chyfeirnod Grid Cenedlaethol ar gyfer y gollyngiad  (gweler isod am fanylion)
  • p’un ai yw’r gollyngiad yn un cyfredol (cyn 6 Ebrill 2010) neu’n un  newydd (ar ôl 6 Ebrill 2010)
  • y math o system carthion sydd gennych (tanc carthion neu gyfarpar trin carthion mewn pecyn)
  • p’un ai ydych yn gollwng i mewn i’r ddaear neu i mewn i ddŵr wyneb 
  • ar gyfer gollyngiadau i’r ddaear, mae angen i chi fedru cadarnhau nad yw’r gollyngiad o fewn 50 medr o ffynnon neu ddyfrdwll a ddefnyddir er mwyn cyflenwi dŵr
  • mae angen i chi fedru cadarnhau eich bod wedi darllen y cyfarwyddyd perthnasol a’ch bod yn gwbl ymwybodol o’r meini prawf ar gyfer cofrestru
  • Lawrlwytho'r canllawiau ar gyfer cofrestru yng Nghymru (PDF, 361)

Cofrestru ar-lein

Gallwch gofrestru yn electronig drwy lawrlwytho'r ffurflen hon, a theipio'r manylion yn syth arni:

Ar ôl i chi ei chwblau, anfowch hi i ni ar ebost i:

Cymorth gyda'ch cais

Os oes gennych chi gwestiwn i'w wneud â chofrestru eich tanc cartion, ffoniwch ni ar 03708 506 506 (Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 8am-6pm).

Neu, gallwch chi yrru ebost atom:

Sut i gael gafael ar eich cyfeirnod grid

I ganfod y cyfeirnod grid ewch i:

  • Gridreference Finder
  • Nodwch eich côd post
  • Nodwch safle’ch tanc carthion
  • Cliciwch fotwm dde eich llygoden yn y man hwn
  • Bydd eich cyfeirnod grid 12 digid yn cael ei
    ddangos

Os nad ydych yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd, gallwch ddefnyddio map Arolwg Ordnans i ddarganfod eich
cyfeirnod grid. Neu gallwch anfon map yn dangos y man gollwng. Os na allwch wneud hynny am unrhyw
reswm, yna efallai y byddwn yn cysylltu â chi i’ch helpu ar ôl derbyn eich ffurflen gais.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Rhown wybod i chi o fewn 15 diwrnod gwaith (tair wythnos) os yw’ch cofrestriad wedi bod yn llwyddiannus. Os ydych yn gwneud cais ar-lein fel rheol bydd yn gyflymach o lawer na hynny.

Os nad allwn dderbyn y cofrestriad am unrhyw reswm, rhown wybod i chi. Gall fod angen i chi wneud cais am ganiatâd amgylcheddol. Codir ffi unwaith ac am byth am gais am ganiatâd ar gyfer gollyngiad bach o garthion. Dyma ein ‘ffi gais ostyngedig’, sydd, ar hyn o bryd, yn £125.

Gallwch ganfod manylion pellach ynghylch ein ffïoedd a’r taliadau a godir gennym ar ein tudalennau taliadau: