Mae’r gofyn i gofrestru gollyngiadau bach domestig o garthion a chyfarpar trin carthion mewn pecyn wedi newid yn Lloegr.
Roedd y gofyn i gofrestru yn un o ganlyniadau rheoliadau a wnaethpwyd yn 2010 gan yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Llywodraeth Cymru, fel rhan o weithrediad Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr Undeb Ewropeaidd. Ystyriwyd mai cofrestru byddai’n darparu’r dull lleiaf trafferthus o fynd ati er mwyn bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol.
Fodd bynnag, rydym yn cynnal arolwg ar y cyd yn awr gyda’r Llywodraeth ar y gofyn i gofrestru gollyngiadau bach domestig o garthion yn Lloegr. Ceir ymgynghoriad gan Defra ynghylch y dewisiadau, y cyhoeddir manylion yn ei gylch yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Byddwn yn cynnwys dolen gyswllt ar y dudalen hon pan fod yr r ymgynghoriad yn cychwyn.
Tra bod yr arolwg ar waith, ni fyddwn yn mynnu fod gollyngiadau bach domestig o garthion yn cael eu cofrestru, gan gynnwys tanciau carthion, yn Lloegr - er y gall perchentywyr barhau i gofrestru os dymunant wneud hynny. Os ydych chi’n dal i ddymuno cofrestru gollyngiad bach domestig o garthion, mae croeso i chi ymweld â’r dudalen hon:
Our regulatory position statements explain how we will regulate small sewage discharges during the review:
Gallwch ddarllen mwy ynghylch y gofynion yng Nghymru a sut i gofrestru ar y dudalen we hon: