Chwiliwch am bolisïau'r Llywodraeth sy'n cynorthwyo cymunedau i addasu ar gyfer newid arfordirol.
Gall newid arfordirol effeithio yn gadarnhaol ac yn negyddol ar bobl. Gall arfordiroedd sy’n erydu fod yn berygl i dai, busnesau a thir amaeth ond gallai eraill elwa ar waddodion yn symud ar hyd y draethlin a chadw amddiffynfeydd naturiol fel traethau a chorsydd yn iach.
Gall y perygl o erydu olygu problemau i berchnogion tai a thirfeddianwyr o ran yswiriant, gwerth eiddo a chaniatâd cynllunio. Er y darperir yswiriant ar gyfer llifogydd o’r môr, nid oes unrhyw yswiriant ar gyfer erydu arfordirol.
Mewn rhai mannau, nid oes modd, ac nid yw’n briodol amddiffyn rhag erydiad neu gynnal a chadw amddiffynfeydd presennol. Lle mae hyn yn digwydd, bydd Asiantaeth yr Amgylchedd, Defra ac awdurdodau lleol yn cydweithio’n agos â chymunedau i’w cynorthwyo i addasu i’r newidiadau.
Addasu i newid arfordirol
Er mwyn cefnogi cymunedau ac awdurdodau lleol i lywio’r ffordd maent yn addasu i newid arfordirol, ym mis Mawrth 2010, cyhoeddodd Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) Addasu i Newid Arfordirol: Datblygu Fframwaith Polisi (PDF, 985KB). Mae hwn yn gosod nifer o ddewisiadau addasu posibl i gymunedau, busnesau a’r isadeiledd lleol yn ogystal ag ar gyfer yr amgylchedd naturiol a hanesyddol.
Mae rhai o’r syniadau hyn yn cael eu harchwilio mewn cyfres o brosiectau awdurdodau lleol a ariennir gan Defra. Cyfeirir atynt fel 'cynlluniau braenaru newid arfordirol'.
Mae Addasu i Newid Arfordirol: Datblygu Fframwaith Polisi hefyd yn cadarnhau cyflwyno grant sydd ar gael i awdurdodau lleol i’w cynorthwyo â’r gost o ddymchwel eiddo sydd mewn perygl yn fuan oherwydd erydiad arfordirol.
I berchnogion tai: Os yw’ch eiddo chi yn un o’r rhain, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol i holi am ‘grant cymorth erydiad arfordirol’.
Awdurdodau lleol. Dylent gysylltu â ni am ffurflen gais naill ai drwy ffonio 01392 442 004, neu anfon neges e-bost at Laidbfinance@environment-agency.gov.uk
Cynllunio ar yr arfordir
Mae’r ffordd rydym yn cynllunio ein hamgylchedd adeiladu yn bwysig hefyd ar gyfer sut y bydd cymunedau yn addasu i arfordir sy’n newid. Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol sy’n arwain ar bolisi cynllunio, sy’n cynnwys polisi newydd ynghylch newid arfordirol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2010. Mae hwn yn ceisio cydbwysedd rhwng y perygl o newid arfordirol a’r angen i alluogi aneddiadau arfordirol i ffynnu ac adfywio.
Mae'r Datganiad Polisi Cynllunio hwn yn gynwysedig yn adolygiad cyffredinol polisi cynllunio ac arweiniad y Llywodraeth, 'Fframwaith y Polisi Cynllunio Cenedlaethol', yr ymgynghorir arno yn yr haf 2011.