Effeithlonrwydd adnoddau

Y sector bwyd a diod yw’r trydydd defnyddiwr diwydiannol mwyaf o ddŵr. Mae defnyddio dŵr ac ynni’n ddoeth a lleihau gwastraff yn dda ar gyfer busnes ac ar gyfer yr amgylchedd.

Amcangyfrifir gan WRAP (y Rhaglen Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau) y gallai sector gweithgynhyrchu bwyd a diod y DU arbed dros £40 miliwn bob bwlyddyn pe bai’n rhoi camau syml ar waith er mwyn lleihau gwastraff bwyd a deunydd lapio a gwella sut mae’n defnyddio adnoddau.

Mae WRAP wedi nodi cyfres o ddulliau gwell o weithio drwy’r gadwyn cyflenwi a phrosesu.

Camau y gallwch chi eu cymryd er mwyn lleihau’r dŵr a ddefnyddiwch

sefydlwch system o  is-fesur a meincnodi er mwyn cofnodi faint a ddefnyddir a nodi ble’r ydych yn defnyddio’r cyfaint mwyaf o ddŵr

  • rhowch  y gweithdrefnau glanhau gorau yn eu lle gan gynnwys systemau glanhau yn y fan a’r lle (CIP)
  • canfyddwch gyfleoedd i ailgylchu neu ailddefnyddio dŵr
  • mabwysiadwch system o ailddefnyddio dilyniannol – defnyddio dŵr ar gyfer dwy broses neu fwy cyn ei waredu
  • mabwysiadwch system o ailddefnyddio gwrthlif – ble mae dŵr yn llifo yn erbyn llif y cynnyrch fel bod y cynnyrch terfynol yn dod i gysylltiad â dŵr glân yn unig
  • ailddefnyddiwch ddŵr ar gyfer glanhau ardaloedd nad ydynt yn rhan o’r broses
  • defnyddiwch systemau oeri sy’n ailgylchredeg
  • defnyddiwch chwistrellau a ffroenellau cyfaint isel a weithredir â chlicied er mwyn lleihau defnydd gormodol
  • cynaeafwch ddŵr glaw ar gyfer glanhau ardaloedd nad ydynt yn rhan o’r broses
  • gellir defnyddio elifiant/dŵr budr wedi’i drin ar gyfer rhai mathau o lanhau fel ardaloedd cerbydau, cewyll a llociau
  • gwarchodwch rhag diferiadau o gyfarpar elifiant a thyrrau oeri a cholledion damweiniol
  • Ymunwch ag  Ymrwymiad y Tŷ Ffederasiwn i leihau faint o ddŵr a defnyddir gan 20% erbyn 2020
  • Mae Rippleffect yn rhoi cyngor i fusnes ynghylch lleihau’r defnydd a wneir o ddŵr

Lleihau ynni

gostyngwch dymereddau mewn adeiladau