Gweithgynhyrchu bwyd a diod

Y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod yw’r sector gweithgynhyrchu diwydiannol mwyaf yn y DU gyda thros 7,000 o fusnesau mewn oddeutu 10,000 o safleoedd.

Mae busnesau bwyd a diod yn defnyddio cyfeintiau mawr o ddŵr ac ynni ac yn cynhyrchu llawer o wastraff. Er y rheolir nhw’n dda yn gyffredinol, gall gollyngiadau dilywodraeth o ddeunyddiau crai ac arogleuon o weithrediadau prosesu bwyd a diod gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd a chymunedau lleol.

Bydd y cyfarwyddyd ar y tudalennau hyn yn helpu busnesau bwyd a diod i reoli eu heffeithiau ar yr amgylchedd a chydymffurfio â deddfwriaeth.

  • Effeithlonrwydd adnoddau

    Y sector bwyd a diod yw’r trydydd defnyddiwr diwydiannol mwyaf o ddŵr. Mae defnyddio dŵr ac ynni’n ddoeth a lleihau gwastraff yn dda ar gyfer busnes ac ar gyfer yr amgylchedd.

  • Atal llygredd

    Bob blwyddyn, achosir nifer o ddigwyddiadau difrifol o lygredd gan golledion o ddeunydd crai, sŵn ac aroglau o brosesu bwyd, yn arbennig ymhlith mentrau bach i ganolig eu maint

  • Rheoli gwastraff

    Mae’r sector bwyd a diod yn cynhyrchu cyfeintiau mawr o wastraff. Ceir llawer o gyfleoedd i leihau gwastraff ac i wella faint o ddeunyddiau crai a adenillir wrth gadw effeithiau amgylcheddol i isafswm.

  • Rheoliadau pellach ar gyfer cynhyrchwyr mwy o faint