Mae gan y cludwr ddyletswydd i drosgludo gwastraff peryglus yn brydlon a heb oediad gormodol. Beth yw ystyr hyn?
Byddem yn disgwyl i gludwr drosgludo’r gwastraff i’r derbyniwr mor gyflym ag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau. Dylai’r rhan fwyaf o lwythi gyrraedd eu cyrchfan o fewn 24 awr.
Ni ddylai’r cludwr adael, na chynllunio i adael, y gwastraff heb oruchwyliaeth ar gerbyd am gyfnod hir (er enghraifft, cyfnod hwy na seibiant rhesymol).
Mewn rhai achosion, gall fod yn rhesymol i drosgludiad gymryd mwy na 24 awr; er enghraifft:
- ble mae’r derbyniwr gryn bellter o’r anfonwr
- mewn ardaloedd sy’n anghysbell yn ddaearyddol ble mae’n rhaid defnyddio dull anfynych o gludiant, fel fferi
- mae amgylchiadau’n codi nad ellir mo’u rhagweld, fel cerbyd yn torri i lawr.
Byddai hyn yn dderbyniol, ar yr amod y gellir rhoi cyfrif rhesymol am y cyfnod o amser rhwng casglu a chyrraedd cyrchfan trosgludo’r gwastraff.
A oes yn rhaid defnyddio nodiadau llwyth ar gyfer gwastraff a dipiwyd yn anghyfreithlon?
Oes. Bydd angen cwblhau nodiadau llwyth ar gyfer tynnu gwastraff o leoliad y tipio anghyfreithlon.
Yr unig eithriad i hyn yw ble mae’n hysbys fod y gwastraff yn dod yn gyfan gwbl o eiddo domestig a gall gael ei ddisgrifio fel gwastraff domestig.
Fel cludwr neu dderbyniwr, beth ddylwn i wneud, os rhoddwyd nodyn llwyth i mi gyda chod nad yw’n cyd-fynd â’r safon codio?
Ni ddylai’r cludwr gario’r gwastraff ymaith os nad yw cod y nodyn llwyth yn cydfynd â’n safon codio.
Dylai’r derbyniwr roi gwybod i’r cludwr a’r cynhyrchwr mewn ysgrifen nad yw cod y nodyn llwyth yn cydfynd â’r safon codio er mwyn sicrhau fod trosgludiadau yn y dyfodol yn cynnwys codau dilys.
Os ydych yn defnyddio’n cymhwysiad taenlen Excel ar gyfer ffurflenni adrodd derbynwyr ar gyfer adrodd bob chwarter, mae’n bosibl y bydd cod annilys yn methu’r prawf dilysu.
Yn yr amgylchiadau hyn dylech wneud y canlynol:
- Peidiwch â newid y codau ar y nodiadau llwyth eu hunain.
- Cadwch gofnodion o bob llwyth sydd â chod nodyn llwyth yn y fformat anghywir.
- Crëwch god newydd yn ein fformat gofynnol (er enghraifft, gan gynnwys cofrestriad eiddo’r cynhyrchwr) i’w ddefnyddio ar y daenlen ffurflenni adrodd derbynwyr. Rhowch y cod hwn yn y cofnod yn erbyn y cod annilys gwreiddiol.
- Cadwch y cofnodion hyn yn y gofrestr derbynwyr sy’n ofynnol gan y rheoliadau.
Sut ddylwn i gwblhau adran tystysgrif derbyniwr nodyn llwyth os nad oes gen i ganiatâd?
Ceir amgylchiadau ble gall derbyniwr dderbyn gwastraff peryglus heb ganiatâd amgylcheddol. Dylid cofnodi’r canlynol ar y dystysgrif derbyniwr yn lle rhif caniatâd:
Safbwynt rheoliadol gwastraff modern (MWRP)
Y safbwynt y derbyniwyd y gwastraff oddi tano - enghraifft: MWRP 60.
Gweithrediad gwastraff wedi’i eithrio
Y rhif cofrestru unigryw a roddwyd i chi pan fu ichi gofrestru’r eithriad sy’n caniatáu i’r gwastraff hwnnw gael ei dderbyn.
Eithriad fframwaith nad yw’n wastraff (NWFE)
Dylid dyfynnu’r eithriad perthnasol. Gall hyn fod naill ai’n NWFE 2 neu 3.
Fel derbyniwr, a oes yn rhaid i mi gynnwys ffracsiynau domestig o wastraff wedi’u gwahanu a drosgludwyd i’m safle ar fy ffurflenni adrodd derbyniwr chwarterol?
Nid yw’r rheoliadau’n berthnasol i’r symudiad cychwynnol o’r eiddo domestig i’r pwynt casglu.
Trinnir y safle sy’n derbyn y ffracsiynau domestig hyn wedi’u gwahanu fel cynhyrchwr y gwastraff ac nid oes angen iddo eu cynnwys ar ffurflenni adrodd chwarterol y derbyniwr, oni bai eu bod yn eu gwaredu ar yr un safle.
Fel derbyniwr, a oes yn rhaid i mi ddarparu ffurflen adrodd i’r cynhyrchwr, y daliwr neu’r anfonwr ble trosgludir gwastraff heb nodyn llwyth?
Mae amgylchiadau penodol yn bodoli ble mae’r rheoliadau’n caniatáu i wastraff peryglus gael ei drosgludo heb nodyn llwyth. Nid oes angen ffurflen adrodd am y gwastraffau hyn. Byddai enghraifft o hyn yn berchentywr domestig sy’n cludo teledu i safle Mwynder Trefol (fel ffracsiwn domestig wedi’i wahanu).
Mewn amgylchiadau eraill, ble mae’r rheoliadau’n gofyn am ddefnyddio nodyn llwyth, mae angen ffurflen adrodd.
Fel derbyniwr, pa berygl dylwn i gofnodi ar y ffurflen ar gyfer gwastraff peryglus nad yw’n edrych fel pe bai’n dangos unrhyw beryglon canfyddadwy?
Gall nifer fach o wastraffau nad oes ganddynt unrhyw briodweddau peryglus gael eu dosbarthu’n gywir o dan gofnod ‘absoliwt' yn y Rhestr Gwastraff Ewropeaidd. O ganlyniad, gall y nodyn llwyth beidio â rhestru’r cod perygl. Pan fod hyn yn digwydd, dylech gofnodi’r cod perygl H5 (niweidiol) ar eich ffurflenni adrodd chwarterol derbynwyr.