Gwastraffau ymbelydrol

Canfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud os ydych yn ymdrin â gwastraff ymbelydrol.

A yw gwastraffau ymbelydrol yn beryglus?

Mae’r rhan fwyaf o wastraff ymbelydrol yn ddarostyngedig i Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr 2010 (EPR10). Nid yw caniatâd yn ofynnol fel rheol am weithgareddau sy’n ymwneud â gwastraffau ymbelydrol sydd wedi’u heithrio rhag gorfod cael caniatâd amgylcheddol gan adran 15  Deddf Sylweddau Ymbelydrol 1993.

Fodd bynnag, mae Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 yn dod â gwastraffau o fewn rheoli gwastraff o dan dri eithriad sylweddau ymbelydrol arbennig. Gweler ein Gwastraffau ymbelydrol – cwestiynau cyffredin am fwy o wybodaeth:

  • Gwastraffau ymbelydrol - cwestiynau cyffredin

Pan fod angen caniatâd ar wastraff ymbelydrol fel gweithgarwch sylweddau ymbelydrol o dan EPR10 ond mae ganddo un  neu fwy o briodweddau peryglus, ni rychwantir mohono gan reolau gwastraff peryglus. Gweler ein canllaw ar wefan Cyswllt Busnes ynghylch rheoli sylweddau ymbelydrol, am fanylion pellach:

Fodd bynnag, pan fod gwastraff ymbelydrol wedi’i eithrio rhag gorfod cael caniatâd amgylcheddol fel gweithgarwch sylweddau ymbelydrol o dan EPR10, mae’n ddarostyngedig i reolau gwastraff peryglus os yw un neu fwy o briodweddau peryglus yn deillio ohono, ac eithrio o’i natur ymbelydrol. Mae eitemau sydd wedi’u heithrio (er nad ydynt o reidrwydd yn wastraff peryglus) yn cynnwys:

  • rhai clociau a watsiau
  • eitemau goleuog
  • cyfansoddion wraniwm a thoriwm
  • synwyryddion mwg