Gwastraffau clinigol

Canfyddwch fwy ynghylch sut i ymdrin â gwastraffau clinigol.

Gwastraffau clinigol a gwiriadau cyn derbyn

Fel rheol gwaredir gwastraffau clinigol naill ai trwy eu llosgi neu driniaeth amgen mewn safleoedd gwaredu awdurdodedig. Ar hyn o bryd rydym yn cyflwyno gofynion fesul camau i’r safleoedd hyn wneud gwiriadau cyn derbyn ar wastraffau cyn iddynt eu derbyn. Seilir y gwiriadau cyn derbyn hyn ar archwiliad manwl o gyfansoddiad ac arwahaniad y gwastraff yn eiddo’r cynhyrchwr. Gall eich contractwr gwastraff gysylltu â chi er mwyn caffael yr wybodaeth hon.
 
Mae’r gofynion hyn yn berthnasol yn bennaf i bractisiau meddygol gan gynnwys ysbytai, canolfannau iechyd, deintyddion, milfeddygon, fferyllfeydd a chartrefi gofal sy’n darparu gofal nyrsio.
 
Nid ydynt yn berthnasol i:

  • wastraff o eiddo domesti
  • cartrefi gofal nad ydynt yn darparu gofal nyrsio/meddygol
  • cynhyrchwyr gwastraff clinigol nad ydynt yn feddygol (er enghraifft tatŵyddion, tyllu’r corff, cymorth cyntaf bach, cam-drin sylweddau, gorsafoedd heddlu, gweithdrefnau nad ydynt yn feddygol yn y diwydiant gwallt a harddwch)

Gallwch ganfod gwybodaeth fanylach ar gyfer y safleoedd gwaredu awdurdodedig yn ein dogfennau cyfarwyddyd EPR 5.07 a S5.06 Atodiad 6 ar y dudalen ganlynol:

Gallwch ganfod gwybodaeth fanylach ar gyfer y safleoedd gwaredu awdurdodedig yn ein dogfennau cyfarwyddyd EPR 5.07 a S5.06 Atodiad 6 ar y dudalen ganlynol:

A yw gwastraffau clinigol yn beryglus?

Mae pob gwastraff clinigol yn wastraff peryglus, gyda dau eithriad:

  • Meddyginiaethau diberygl wedi’u harwahanu
  • Gwastraffau clinigol o weithgareddau nad ydynt yn ofal iechyd

Fel rheol mae gwastraffau’n wastraff clinigol o ganlyniad i bresenoldeb cemegolion peryglus neu sylweddau fferyllol, neu oherwydd gallant achosi haint. Ac eithrio meddyginiaethau a ddosbarthir fel rhai diberygl, oherwydd hyn dosbarthir gwastraff clinigol fel rheol fel gwastraff peryglus.

Pa feddyginiaethau sy’n beryglus?

Caiff unrhyw feddyginiaeth sy’n  berchen ar un neu fwy o’r priodweddau peryglus canlynol ei dosbarthu fel ‘cytotocsig a cytostatig’ ac  mae’n wastraff peryglus:

  • Gwenwynig
  • Carsinogenig
  • Mwtagenig
  • Gwenwynig i atgenhedlu

Mae hwn yn grŵp eang o feddyginiaethau sy’n cynnwys y rheiny a geir mewn fferyllfeydd cymunedol a meddygfeydd teulu.

Nid yw meddyginiaethau eraill yn wastraff peryglus. Ble mae ganddynt briodweddau peryglus dylid cofnodi’r rhain ar ddogfennaeth gwastraff ar gyfer pwrpasau Dyletswydd o Ofal.

Dosbarthir gwastraffau gofal iechyd fel gwastraff clinigol mewn achosion ble gallant achosi haint neu fod yn beryglus.

Pa weithgareddau nad ydynt yn ofal iechyd sy’n cynhyrchu gwastraff clinigol?

Fel rheol y gweithgareddau nad ydynt yn ofal iechyd sy’n cynhyrchu gwastraff clinigol yw’r rheiny nad ydynt yn ymwneud o gwbl (yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol) ag ymarferydd meddygol. Gallai enghreifftiau gynnwys:

  • Nodwyddau o lunio tatŵs neu dyllu’r corff
  • Nodwyddau o weithdrefnau cosmetig bach (y rheiny nad ydynt angen ymarferydd meddygol).

Fel rheol byddai gwastraff clinigol o’r gweithgareddau hyn yn dod o dan Bennod 20 y Rhestr Gwastraff Ewropeaidd (weithiau 20 01 99). O ganlyniad, er y dylid eu disgrifio, eu pecynnu a’u rheoli fel gwastraffau clinigol, cânt eu dosbarthu o dan god diberygl.

Fodd bynnag, mae gwastraff o hunan ofal, sy’n deillio o driniaeth a oruchwylir  neu a ragnodir gan ymarferydd meddygol yn wastraff o weithgarwch gofal iechyd wedi’i ddosbarthu o dan bennod 18. Byddai enghraifft o hyn yn nodwyddau a gynhyrchir gan glaf diabetig yn eu cartref eu hunain.