Canfyddwch fwy am wastraff domestig, ffracsiynau domestig wedi’u gwahanu ac asbestos.
Beth yw gwastraff 'domestig' ac a yw'r rheoliadau'n berthnasol iddo?
At bwrpasau’r rheoliadau hyn:
Mae gwastraff domestig yn "wastraff o lety a ddefnyddir yn gyfan gwbl at bwrpasau byw (a heb elw masnachol) ac a waredir trwy’r casgliad sbwriel domestig cymysg arferol". Mae 'sbwriel domestig cymysg arferol’ yn ddiberygl, er y gall gynnwys cyfeintiau bach o wastraffau peryglus a gynhyrchir gan yr eiddo domestig. Gall awdurdodau casglu gwastraff ragnodi’r mathau o wastraff y gellir eu gwaredu mewn biniau domestig.
Mae gwastraff peryglus a gafodd ei wahanu o sbwriel domestig cymysg arferol arall yn ‘ffracsiwn domestig wedi’i wahanu.
Nid yw’r rheoliadau’n berthnasol i wastraff domestig, ar wahân i asbestos a ffracsiynau domestig wedi’u gwahanu.
Sut mae’r rheoliadau’n berthnasol i wastraffau asbestos o eiddo domestig?
Mae’r rheoliadau’n berthnasol i asbestos sydd yn wastraff domestig yn ogystal.
Fodd bynnag, nid ydynt yn gosod unrhyw reolau ar breswylydd yr eiddo domestig neu unrhyw un sy’n gweithredu ar eu rhan heb gael ei dalu. Er enghraifft, nid yw perchentywr domestig sy’n tynnu gwastraff asbestos o’u tŷ eu hun a’i gludo i safle mwynder trefol, gyda chymorth cymydog di-dâl, yn destun rheolau gwastraff peryglus.
Ble cynhyrchir y gwastraff asbestos gan gontractwr, a gyflogir gan y perchentywr i wneud unrhyw waith yn ei eiddo domestig, yna mae’r rheoliadau’n berthnasol i’r contractwr hwnnw.
Trinnir y contractwr, yn ogystal, fel yr anfonwr oni bai ei fod wedi cyflogi rhywun arail i fod yn anfonwr.
Beth yw ‘ffracsiynau domestig wedi’i gwahanu’?
Gwastraffau yw’r rhain sy’n:
- Wastraff peryglus sy’n wastraff domestig; ac a
- Gafodd ei wahanu o wastraff domestig.
Rhaid i’r gwastraffau hyn beidio â chael eu cymysgu â gwastraffau eraill, naill ai ar y cerbyd casglu nac yn ddiweddarach.
A reolir ffracsiynau domestig wedi’u gwahanu gan y Rheoliadau?
Mae’r rheoliadau’n berthnasol i’r gwastraffau hyn.
Fodd bynnag, nid oes angen i chi ddarparu nodyn llwyth pan symudir gwastraff o’r fath o’r eiddo domestig a’i gludo wedyn i eiddo er mwyn ei gasglu, ei waredu neu ei adennill.
Yna trinnir y sefydliad neu fusnes sy’n derbyn y gwastraff mewn eiddo i’w gasglu, ei waredu neu ei adennill fel cynhyrchwr y gwastraff.
Wedyn bydd y gwastraffau hyn yn dod o dan y gofynion llawn ar gyfer unrhyw symudiad ymlaen a wneir gan y gwastraff o’r eiddo er mwyn ei gasglu, ei waredu neu ei adennill.