Manylion ynghylch sut i gofrestru neu adnewyddu fel cynhyrchwr gwastraff peryglus. Mae hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr yn unig. Nid yw’n ofynnol i gofrestru yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
A oes angen i mi gofrestru fy eiddo?
Os ydych yn cynhyrchu neu’n dal gwastraff peryglus mewn unrhyw eiddo yng Nghymru a Lloegr rhaid i chi ei gofrestru bob blwyddyn, oni bai fod y cyfanswm yn dod i lai na 500kg bob blwyddyn.
Pwyntiau allweddol:
- Mae’r cofrestriad yn ddilys am 12 mis a rhaid ei adnewyddu bob blwyddyn.
- Mae pob math o eiddo sy’n cynhyrchu neu ddal llai na 500kg o wastraff peryglus mewn blwyddyn wedi’u heithrio rhag cofrestru. Nid oes angen i chi ddweud wrthym eich bod wedi’ch eithrio.
- Nid yw’n ofynnol i eiddo yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon gofrestru.
- Mae’r rheoliadau'r un peth yng Nghymru a Lloegr.
Gallwch gaffael mwy o wybodaeth oddi wrth ein dogfen gyfarwyddyd a’r datganiad safbwynt rheoliadol ategol isod:
Ar gyfer eiddo amaethyddol yn unig ni fyddwn yn cyfrif pwysau cerbydau diwedd oes (cerbydau sgrap) fel pwysau sy’n cyfrif tuag at y trothwy 500kg.
Os ydych yn gweithredu gwasanaeth symudol dylech ddarllen yn ogystal:
Os ydych yn cynhyrchu neu’n derbyn gwastraff peryglus gall fod angen caniatâd arnoch o dan y Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol yn ogystal:
Cofrestru neu adnewyddu cofrestriad
Gallwch gofrestru eich eiddo eich hun neu gallwch wneud hyn ar ran rhywun arall. Fodd bynnag, cyn i chi gofrestru rhywun arall, rhaid i chi gaffael eu caniatâd nhw. Cynhyrchwyr yng Nghymru a Lloegr yn unig sy’n gorfod cofrestru, nid oes yn rhaid i safleoedd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon gofrestru.
Mae cofrestriadau’n para am un flwyddyn a gallwch chi adnewyddu cofrestriad hyd at fis cyn iddo ddirwyn i ben. Mae’r ffioedd a godir am gofrestriadau yn cwmpasu ein costau gweinyddu’n unig ac felly ni allwn ni wneud ad-daliad i safleoedd a gofrestrwyd yn anghywir.
Er mwyn cofrestru eich eiddo, bydd angen i chi wybod y
Byddwch angen eich rhif Tŷ’r Cwmnïau yn ogystal os ydych yn gwmni cyfyngedig:
Gallwch gofrestru neu adnewyddu yn un o’r dulliau canlynol
- Ar-lein (£18 y safle) (am bum safle neu’n llai)
Bydd angen cerdyn credyd neu ddebyd arnoch (nid ydym yn derbyn American Express na Diners Card). Nid yw’r system cofrestru ar-lein yn gweithio yn y modd gweld testun yn unig. Am fwy na phum safle, edrychwch ar yr wybodaeth ynghylch cofrestru mewn crynswth.
- dros y ffôn (£23) neu postiwch ffurflen gais (£28)
- mewn crynswth (£18 ar gyfer bob cofrestriad) (Am fwy na phum safle)
Ein rhif ffôn ar gyfer cwestiynau ynghylch cofrestru
Ffoniwch 08708 502 858 rhwng 8yb a 6yp (unrhyw ddiwrnod gwaith heblaw am Ddydd Gwener y Groglith, Dydd Nadolig, gwyliau’r banc neu wyliau cyhoeddus eraill).
Am fwy o wybodaeth ynghylch cofrestru eich eiddo, gweler ein dogfen ganllaw isod:
Gwirio eich cofrestriad cynhyrchwr
Gallwch wirio fod safle wedi’i gofrestru trwy chwilio’r Cofrestrau Cyhoeddus. Detholwch 'gwastraff peryglus' o’r blwch cwymplen.
Mae’n drosedd i gludo gwastraff peryglus o eiddo oni bai ei fod wedi’i gofrestru neu ei eithrio.
Rhaid i gludwr gwastraff fod yn fodlon bod y cynhyrchwr wedi’i eithrio o’r gofyn i gofrestru cyn iddynt gludo’r gwastraff ymaith a dylent gaffael cadarnhad ysgrifenedig oddi wrth y cynhyrchwr y bydd yr eiddo wedi’i eithrio pryd gwneir y casgliad. Dylai’r cludwr ystyried yn ogystal faint maent yn ei gasglu a pha mor aml.