Eich hawl i wybod

Canfyddwch sut a ble gellir cael gwybodaeth gan Asiantaeth yr Amgylchedd; a manylion o'n hymrwymiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn sefydliad agored a thryloyw.

Rydym bob amser wedi cydnabod y rôl hanfodol mae mynediad at wybodaeth yn ei chwarae wrth ein helpu i gyflawni ein hamcanion. Mae mynediad o'r fath yn hanfodol i hygrededd ein swyddogaethau rheoleiddio. Gan ein bod yn dibynnu ar eich grym a dylanwad i'n helpu i gyflawni gwelliannau amgylcheddol parhaus, byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth amgylcheddol gyfredol ar gael i chi. Rydym felly'n eich annog i geisio gwybodaeth gennym.

Rydym yn ceisio gwneud gymaint o wybodaeth ar gael ag sy'n bosib ac mae hyn yn cael ei nodi yn ein Cynllun Cyhoeddiadau. Os nad yw'r hyn yr ydych ei eisiau yn y cynllun, yna gellwch wneud cais am y wybodaeth.