Dros y byd i gyd, defnyddir mwy o adnoddau nag y gellir ei gynnal. Mae’r boblogaeth yn parhau i gynyddu, fel y mae safonau byw, ac mae galwadau ar adnoddau naturiol eisoes ar lefelau nad ydynt yn gynaliadwy. Gall busnesau elwa o ddefnyddio adnoddau naturiol mewn dull mwy effeithlon a defnyddio’r gwastraffau a gynhyrchant fel adnoddau. Byddwn yn darparu cyngor, cyfarwyddyd ac arweiniad i fusnesau a’r sector cyhoeddus i helpu hyrwyddo defnyddio adnoddau naturiol mewn dull mwy effeithlon a chynaliadwy.
Strategaethau ategol
Mae’r elfen hon o’n strategaeth wedi’i chefnogi gan nifer o strategaethau ategol sy’n dangos yn fwy manwl sut byddwn yn gweithio mewn meysydd penodol er mwyn cyflawni’r amcanion a osodir allan yn ein strategaeth: