Gweithio gyda phobl a chymunedau er mwyn creu lleoedd gwell

Gall amgylchedd o ansawdd da helpu i wella bywydau pobl a chynnal economi cynaliadwy.

Ond mae newid yn yr hinsawdd, twf mewn poblogaeth a disgwyliadau uwch gan ddefnyddwyr yn rhoi pwysau ar yr amgylchedd. Mae llawer o bobl yn pryderu ynghylch beth mae hyn yn ei olygu ar eu cyfer nhw a’u cymuned – o effeithiau llygredd ar eu hiechyd, i faint o ddŵr ac adnoddau eraill fydd ar gael, ac effeithiau llifogydd ac erydiad yr arfordir.

Byddwn yn cydweithio’n agosach â phobl a chymunedau er mwyn creu lleoedd gwell ac i helpu pobl i fwynhau’r amgylchedd a’r buddion gall hyn ddwyn yn ei sgil. Byddwn hefyd yn gweithio er mwyn diogelu pobl rhag risgiau amgylcheddol, gan gynnwys llifogydd, a gweithio o fewn cymunedau er mwyn datblygu atebion a rennir.

Strategaethau ategol

Mae’r elfen hon o’n strategaeth wedi’i chefnogi gan nifer o strategaethau ategol sy’n dangos yn fwy manwl sut byddwn yn gweithio mewn meysydd penodol er mwyn cyflawni’r amcanion a osodir allan yn ein strategaeth:

  • Strategaeth ategol lleoedd cynaliadwy Strategaeth ategol lleoedd cynaliadwy (PDF, 1MB)
    Erbyn 2030, gallai hyd at 30 y cant yn fwy o aelwydydd fodoli yn Lloegr a 25 y cant yn fwy yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi pwysau ar adnoddau naturiol a rhoi straen ar allu peth seilwaith amgylcheddol i ymdopi. 
    Canfyddwch fwy ynghylch ein gwaith ar leoedd cynaliadwy