Gweithredwr amgylcheddol

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn chwarae rôl ganolog yn y gwaith o reoli perygl llifogydd. Gyda ni mae’r rôl drosolwg strategol ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd o bob ffynhonnell, gan gynnwys afonydd, y môr, dŵr daear, cronfeydd a dŵr wyneb yn Lloegr - ac o afonydd a’r môr yng Nghymru.

Rydym yn cefnogi ac yn cydweithio’n agos mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, sy’n gyfrifol am reoli perygl llifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr lleol llai o faint.

Byddwn yn cysylltu’n agored gyda chymunedau lleol er mwyn gwella’r ddealltwriaeth o’r risgiau o lifogydd ac erydiad yr arfordir, darparu rhybuddion llifogydd a helpu i ddatblygu a hyrwyddo atebion sy’n eu gwneud yn fwy galluog i wrthsefyll digwyddiadau o lifogydd.

Gan weithio ochr yn ochr â byrddau draenio mewnol ac awdurdodau lleol, byddwn yn comisiynu dylunio ac adeiladu amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Nghymru a Lloegr, a’u cynnal a’u gweithredu. Pan geir llifogydd, byddwn yn gweithio gyda’r gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol er mwyn cadw’r niwed i bobl ac eiddo i isafswm.

Rydym hefyd yn gweithio er mwyn cynnal a gwella’r amgylchedd. Mae ein gwaith yn ymwneud â chreu a gwella cynefinoedd ar gyfer pysgod a bywyd gwyllt arall sy’n byw mewn dŵr a helpu rhywogaethau dan fygythiad fel eogiaid a llyswennod. Darparwn gyfleusterau pysgota a mynd mewn cychod sy’n caniatáu i bobl fwynhau hamdden yn yr awyr agored.