Rheolydd amgylcheddol

Daw’r rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth amgylcheddol sy’n berthnasol yng Nghymru a Lloegr o Gyfarwyddebau Ewropeaidd. Mae adrannau o’r Llywodraeth yn trawsddodi’r gofynion hyn yn rheoliadau ac mae gennym rymoedd a dyletswyddau penodol i’w gweithredu, gan weithio yn ôl egwyddorion rheoleiddio gwell.

Byddwn yn defnyddio caniatadau, awdurdodiadau a chysyniadau er mwyn gosod yr amodau sy’n rhaid i weithredwyr gydymffurfio â nhw er mwyn i’w gweithgareddau beidio â chael effaith andwyol ar yr amgylchedd. Mae’r busnesau a reoleiddiwn yn cynnwys:

  • gorsafoedd pŵer
  • gosodiadau niwclear
  • y diwydiant cemegolion
  • gwneuthurwyr bwyd a diod
  • prosesu metelau
  • y diwydiant dŵr
  • ffermydd
  • safleoedd rheoli gwastraff.

Rydym hefyd yn rheoleiddio tynnu dŵr ar gyfer dŵr yfed, dyfrhau a diwydiant. Nod ein gwaith adnoddau dŵr yw cyflawni’r canlyniad amgylcheddol gorau ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

Byddwn yn targedu’r gweithgareddau sy’n peri’r bygythiad mwyaf i’r amgylchedd – dull o fynd ati wedi’i seilio ar risg sy’n golygu ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau.