Creu lle gwell 2010 - 2015

Dyma ein strategaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae'n gosod allan sut byddwn ni - gan weithio gydag eraill - yn dod â chyflymdra a dyfeisgarwch i'r her o amgylchedd sy'n newid.

Y darlun mawr

Hinsawdd sy'n newid, poblogaeth sy'n tyfu'n gyflym, dirwasgiad economaidd byd-eang, yr angen dybryd i sicrhau cyflenwadau ynni a bwyd yn y dyfodol. Gyda'i gilydd, mae'r pwysau hyn yn rhoi straen aruthrol ar yr amgylchedd, ac yn bygwth gallu pobl i fwynhau a chael eu cynnal gan y byd.

Dyna pam taw'r strategaeth hon yw un bwysicaf Asiantaeth yr Amgylchedd hyd yma. Mae'n gosod allan ein hamcanion ar gyfer y cyfnod hyd at 2015 ac yn disgrifio'r rôl byddwn yn ei chwarae wrth fod yn rhan o'r ateb i'r heriau amgylcheddol a wynebir gan gymdeithas. Gweithio gydag eraill yw'r unig ffordd i ni gwrdd â'r heriau hyn. Y strategaeth hon, o'i chymryd yn ei chyfanrwydd, yw ein cyfraniad ni tuag at ddatblygu cynaliadwy.

Ysgrifennwn y strategaeth hon mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd. Felly byddwn yn parhau i adolygu ein blaenoriaethau a dulliau o weithio er mwyn sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau posibl am yr arian, gan gyflawni mwy ar gyfer pobl a'r amgylchedd am bob punt a wariwn

 Mae ein gwaith o gymorth i adferiad economaidd, er enghraifft, trwy brosiectau cyfalaf, trwy hyrwyddo adfywiad yn ein gwaith rheoli perygl llifogydd, trwy wella ansawdd dŵr, tir ac aer, a thrwy gwtogi ar gostau rheoleiddio i fusnes.

 Byddwn hefyd yn chwilio am gyfleoedd i helpu hyrwyddo economi carbon isel a chreu swyddi gwyrdd. A byddwn yn helpu busnesau i arbed arian trwy ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithlon.